Ar ôl canlyniad siomedig ar y penwythnos i ffwrdd yn Felinfach, mae tîm cyntaf Llandysul mewn peryg o ollwng o adran uchaf Cynghrair Ceredigion am y tro cyntaf ers degawd.
Ar ôl dechrau da i’r tymor, lle cafwyd canlyniadau da, mae eu safon wedi disgyn yn ystod yr wythnosau diwethaf ac maent bellach yn ffeindio dim ond un lle oddi ar waelod y tabl ar yr un bwyntiau a Dewi Stars ac Aberteifi. Pedair gêm yn unig sydd ar ôl o’r tymor, dwy ohonynt yn erbyn Aberteifi, ac mae’n edrych fel mai canlyniad y dau gêm hynny fydd yn pennu tynged y clwb.
Mae’r Rheolwr, Chris Davies, yn gobeithio y bydd y tîm yn gallu codi eu hunain ar gyfer y gemau mawr hynny,
“Mae’n siomedig bod lle rydyn ni ar y cam yma o’r tymor, roedden ni wedi gobeithio gwthio am y 4 uchaf, yn enwedig ar ôl cael dechrau da. Ar ôl ennill cymaint o dlysau dros y 5 mlynedd diwethaf, mi fydd hi’n siomedig iawn. Ond os gwnawn ni, fe anelwn fownsio’n syth yn ôl y tymor nesaf.”