Fe achosodd Storm Eunice drychineb mawr pan darodd Llandysul mis diwethaf. Syrthiodd coed, rhwygodd Afon Teifi ei glannau, gadawyd cannoedd o gartrefi heb drydan a dywedwyd wrth drigolion aros y tu fewn er eu diogelwch eu hunain.

Roedd fel ‘Lockdown’ eto. I ni yn eu harddegau, un o’r pethau mwyaf annifyr oedd y ffaith bod rhwydweithiau ffôn symudol i lawr ar draws yr ardal am sawl diwrnod.

Y llynedd, cafodd Llansyul grant o £10,000 i wella’r dref a phenderfynwyd ei wario ar osod umberellas yn hongian uwchben un o’r strydoedd. Cawsant eu dinistrio’n rhwydd. Am wastraff arian! Gobeithio dysgwyd gwers i’r Cyngor Cymuned. Er gwaethaf y difrod gwerth miloedd o bunnoedd, un canlyniad cadarnhaol oedd y Goleuadau Nadolig yn cwympo. Nid ydynt wedi cael eu disodli ers sawl blwyddyn ac roeddent yn ddiwerth. Maent bellach wedi cael eu disodli gan oleuadau newydd, mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Wrth i’r pentref adfer mewn pryd ar gyfer y Nadolig, bydd preswylfa yn croesi eu bysedd gan obeithio mai Eunice oedd y storm olaf i daro’r pentref mewn amser hir iawn!